Bu inni estyn gwahoddiad i bobl gyflwyno un llun o le oedd yn bwysig iddyn nhw yng nghefn gwlad Conwy. Dyma’r lluniau wnaethon ni eu derbyn.
Gofynnwn yn garedig ichi rannu eich barn am y lluniau yn yr arddangosfa os gwelwch yn dda? Hoffech chi ymweld â’r lleoedd hyn? Sut ydych chi’n teimlo am ddyfodol y lleoedd hyn wrth edrych ar y lluniau? Cyflwynwch eich sylwadau isod os gwelwch yn dda.
Hofrwch ar y prif lun i oedi’r sioe sleidiau.
- Cadair Ifan Goch yn edrych ar Afon Conwy ar Carneddau © Christine Roberts
- Llanrwst © Ciaran Palmer - Mae’r llun yma o Lanrwst ac rydym wedi byw yma ers mis Tachwedd. Wnaethon ni ddod o hyd i’r dref hon ar hap wrth chwilio am gartref newydd ac fe wnaethon ni ddisgyn mewn cariad gyda’r lle unwaith inni stopio yma. Roedden ni wastad eisiau symud i Gymru ond doedden ni ddim yn hollol sicr i ba ran. Wnaethon ni symud yma o Fanceinion (2 flynedd yn ôl) ac fe gawson ni ein magu yn Essex. Mae’r dref a’r tŷ yn gyfle inni fwynhau dechrau newydd o ran arian, hapusrwydd, gyrfaoedd a mwynhau ffordd o fyw newydd yn y mynyddoedd. Yn ogystal, roedd pawb mor groesawgar felly roedden ni’n teimlo’n galonogol iawn ynghylch ein dyfodol yma.
- River Conwy © Debo - Dyma fy hoff le i, cerdded ar hyd Afon Conwy o’r RSPB
- Carmel © Dominic Chennel
- Gwydir Forest © Emma Corke - Fe wnes i dynnu’r llun hwn yn ystod taith hwyrnos yng Nghoedwig Gwydyr lle bûm yn cerdded drwy gydol fy oes. Dw i’n meddwl ei fod yn hudolus!
- Llangelynnin Church © Gareth Hughes - Mae Hen Eglwys Llangelynnin yn le arbennig iawn. Mae’n arbennig gan ei bod yn anghysbell a chan nad ydy hi wedi’i chyffwrdd i raddau helaeth ers y 12fed ganrif. Mae’n le hyfryd i danio’ch dychymyg, gan fyfyrio am y porthmyn yn tywys eu da byw dros y mynyddoedd ac addoli yn Eglwys y Dynion, ar wahân i’r plwyfolion lleol. Mae’r natur syml y tu mewn i’r eglwys yn rhan o’i hapêl yn ogystal â’r llawr sylfaenol a’r groglen syml. Mae’n ein hatgoffa o’r rheiny fu’n addoli yma dros y canrifoedd. Heddiw daw pererinion, ymwelwyr a defaid yr ardal i grwydro tir yr eglwys felly mae’n le anhygoel.
- Creigiau Gleision towards Tryfan and Llyn Cowlyd © Giovanni Jacovell
- Room with a View, Dolgarrog, nr Llyn Coedty © Graham Williams - Mae’n le arbennig imi gan fy mod i wedi cerdded heibio yma sawl tro pan oeddwn yn ifanc, ar fy ffordd i bysgota yn Llyn Coedty a Llyn Eigiau. Mae’n debyg nad ydy’r ardal wedi newid o gwbl dros y degawdau. Mae’n le mor braf a thawel gyda golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Conwy ac i fyny’r aber. Mae’n le gwych i ymlacio a myfyrio ar ba mor lwcus ydyn ni o fyw mewn lle mor fendigedig.
- Penmachno Wollen Mill Pack Horse Bridge © Keith Roobottom
- Llynnau Mymbyr © Llion Griffiths
- Nant Bwlch yr Haearn, Gwydir Forest © Nisha - Fe wnes i ddigwydd gweld yr her lluniau hon tra’r oeddwn yn mynd a phoster am ail lyfr fy Nain ‘Almost a Catastrophe! A Welsh family’s adventures in Malta’ i There and Back Again yn Nolgarrog. Bu Gogledd Cymru, a Choedwig Gwydr yn enwedig, yn le mor arbennig imi oherwydd yr hanes ynghlwm â fy nheulu. Rydw i wir wedi mwynhau aros yno a chlywed holl straeon fy Nain, Janet Corke (Williams gynt). Mae llawer o’r straeon hynny yn ymddangos yn ei llyfr cyntaf ‘A Hidden Home in the Gwydyr Forest’. Mae hoff atgofion fy mhlentyndod yn ymwneud â bod yn y goedwig, o amgylch y llynnoedd ac yn y bryniau! Rydw i’n 22 erbyn hyn ac mae’n dal yn un o fy hoff leoedd i ymweld ag o gan ei fod mor dawel a distaw yno!
- Coed Bryndansi Woods © Oliva Roberts
- Llanbedr y Cenin © Patrycja Suchanska - Rwyf wedi bod yn byw yn Llanbedr-y-Cennin ers y ddwy flynedd diwethaf. Rydw i wrth fy modd gyda’r ardal ac mae’r cae gydag un goeden unigol ymysg un o fy hoff leoedd heb os.
- Llyn Crafnant © Paul Jones
- Llyn Crafnant © Rebecca Lloyd - Llyn Crafnant yn ystod y machlud ar Nos Galan 2019. Mae Llyn Crafnant yn le bendigedig ac yn arbennig inni fel teulu gan ein bod yn cerdded o’i amgylch pob dydd Nadolig ac ar Ddydd Calan hefyd. Mae’r plant a’r ci wrth eu bodd yma.
- Safle Caer Rhufeinig Canovium © Shirley Williams - Wrth fy modd hefo’r lle!
- Capel Ardda, above Trefriw © Tim Pugh - Capel Ardda, uwchben Trefriw ac mae’n lleoliad hyfryd, melancolaidd ac anghysbell. Pan es i am y tro cyntaf, roedd y goedwig gerllaw yn llawn cogau ac roedd haen o eira yn gorchuddio’r mynyddoedd… hudolus dros ben.
- Gwydir Forest, Trefriw © Graham Hembrough - Lle rydw i wedi treulio sawl awr llon yn crwydro’r goedwig yn ystod yr argyfwng Covid. Rwy’n teimlo bod y llun hwn yn cyfleu’r teimlad o obaith gyda’r trosiad o ‘oleuni’n treiddio’r cysgodion…’
- Llandudno Pier and Great Orme © Alan Taylor - Mae’r awyr yn las, mae’r machlud haul yn syfrdanol drwy gydol y flwyddyn. Mae yna rywbeth at ddant pawb o bob oedran yma! Fy hoff le i! Rydw i’n syml yn ei alw’n …GARTREF
- Nasturtiums © Billie Ingram - Mae’r llun hwn o gapan cornicyll (nasturtium) yn arbennig dros ben. Dyma’r peth cyntaf wnaeth dyfu yn fy ngardd yn ystod y cyfnod clo ac mae’r peth olaf i flodeuo yn yr wythnos ddiwethaf wedi i fy annwyl gi, Poppy farw. Mae ei bedd yn llawn lliw a llawenydd.
- Llanfairfechan © Claire Kay - Llun ‘Carped o niwl hwyrol’. Mae’n llun o forglawdd Llanfairfechan yn gynnar gyda’r nos pan roedd y niwl trwchus yn gorwedd ledled y corstir gwelltog gan gyfleu teimlad nefolaidd. Rydym yn mynd â’r ci am dro yno’n aml a dydw i byth yn blino ar y tymhorau a’r bywyd gwyllt newidiol. Drwy gydol y cyfnod clo roedd modd inni ddianc o wallgofrwydd y byd o’n cwmpas i le arbennig nepell o’n cartref. Roedd modd inni fwynhau prydferthwch y lle, manteisio arno fel noddfa a meithrin cyfeillgarwch wrth i gerddwyr cŵn gyfarwydd a thrigolion y pentref gerdded heibio gan sgwrsio am ein sefyllfa gythryblus a sôn am ein rhyddhad o fod yn byw mewn lle mor brydferth. Rydym yn mynd â’r ci am dro yno’n aml a dydw i byth yn blino ar y tymhorau a’r bywyd gwyllt newidiol. Drwy gydol y cyfnod clo roedd modd inni ddianc o wallgofrwydd y byd o’n cwmpas i le arbennig nepell o’n cartref.
- Grerat Orme Site of Special Scientific Interest & special butterfily site © David Chandler
- Sychnant Conwy a Harri (Cockapoo) © Gill Boocock - Dyma le rydym ni’n mynd i gael llonydd.
- Y Prom Bae Colwyn © Iolo Williams - Mae promenâd a thraeth Bae Colwyn yn le bendigedig inni i gyd ei fwynhau yn yr awyr agored, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn o ran ein hiechyd.
- Conwy mountain © Natalie Roberts
- Gloddaeth Woods Llandudno © Tuladhana East - Coedwig Gloddaeth, Ochr y Penrhyn, wedi’i dynnu ym mis Medi 2021. Rydw i wedi crwydro, canu, ysgrifennu caneuon a barddoniaeth, chwerthin, crio a chynnal sesiwn tynnu lluniau yn y goedwig hon. Mae’r coed hynafol hyn yn urddasol ac maen nhw’n gwneud imi deimlo mor rhydd, teimlo fel fy mod i’n bwysig ac yn fy nghysuro i. Roedd y golau yn y llun yn edrych mor syfrdanol yr eiliad honno.
- Eirias Park © Wynne Roberts
