Adref

Rydan ni’n caru gwneud i bethau ddigwydd

Mae pethau gwych yn bosib gyda pobl creadigol, ac rydan ni wrth ein boddau yn cydweithio hefo nhw.

Rydan ni wedi bod yn ffodus i gael cyfleoedd anhygoel i weithio gyda artistiaid gwych, sefydliadau, bobol creadigol, cymunedau, curadwyr, cyfarwyddwyr mewn lleoliadau anhygoel.

Rydan ni yn gynhyrchwyr, rheolwyr prosiect, rheolwyr digwyddiadau, ymgynghorydd ar gyfer prosiectau perfformio, celf gyhoeddus, cymunedol, treftadaeth, addysg, adfywio, rhwydweithio a gwyliau.

Mae beth da ni’n wneud i’w weld mewn lleoliadau cyhoeddus, caeau, orielau, coedwigoedd, parciau, strydoedd, ffyrdd, hen siopau, ar fynyddoedd, llwyfannau theatr, mewn ffilmiau a llawer o lefydd eraill hefyd.

Rydan ni’n caru beth rydan ni’n wneud, dyna pam bo ni’n ei wneud o.

Edrychwch ar y dudalen prosiectau am ychydig o wybodaeth am beth o’n gwaith diweddar.