Amdan

Amdanom ni

Rydan ni wrth ein boddau yn bod yn greadigol a creu pethau nad oedd yn bodoli o’r blaen.

Gair gwneud ydi Ffiwsar, gyda’r tamaid ‘ffiws’ yn cyfuno hefo ‘ar’ i olygu rhywun neu rhywbeth sydd yn ffiwsio pethau!

Rydan ni’’n hoffi ffiwsio pethau at eu gilydd, partneriaid i rannu arbenigedd neu gwybodaeth, bobol creadigol i freuddwydio a creu gyda’n gilydd, cyfranogwyr i fewnbynnu, cynulleidfa i brofi a cathod i gael mwythau.

Tydan ni ddim ond yn gweithio ar brosiectau rydan ni’n eu caru, rhai rydan ni yn creu, eraill wedi eu creu gan eraill ond da ni’n chwarae rhan yn y broses greadigol gyda clientiaid a thîmau creadigol. Os oes awydd sgwrs i drafod cydweithio ar syniad creadigol a dod a fo’n fyw, cysylltwch, a gobeithio fedrwn ni weithio hefo’n gilydd.

Mae’r cwmni’n cael ei arwain gan Iwan Glyn Williams, cynhyrchydd creadigol hefo dros ugain mlynedd o brofiad yn y sector celfyddydol a diwylliant, yn cynnwys rheoli digwyddiadau, cynhyrchu, rheoli prosiectau ac ymgynghori yn amrywiaeth o ffurfiau celf a gwaith aml-gelfyddyd yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.

Rydan ni’n gweithio gyda ystod eang o gydweithwyr creadigol penodol ar gyfer pob prosiect.

Yn ogystal â gweithio ar brosiectau cyffrous, rydan ni yn hoffi cathod ac hefyd yn hoffi bylbiau, dyma rhai rydan ni’n eu hoffi.