
Rydym yn chwilio am gydlynydd llawrydd sy’n siarad Cymraeg i ymwneud gyda chymunedau a phartneriaid a threfnu 3 dangosiad sinema y tu allan sydd wedi’u cynnal gan feiciau yn Nyffryn Conwy yn ystod Ebrill 2022. Bydd y ffi yn £3 mil a’r dyddiad cau i ymgeisio ydy Ionawr yr 28ain 2022.
Os ydych chi’n hoff o ymwneud gyda phobl, trefnu digwyddiadau ac yn frwdfrydig dros weithgareddau celfyddydol yn y gymuned ynghyd â rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o weithio, ewch ati i ymgeisio neu cysylltwch gyda ni.
Gwybodaeth am y prosiect
Rydym yn awyddus i ymwneud yn uniongyrchol gyda thrigolion y gymuned i weld pa ffilmiau yr hoffan nhw eu gwylio fel rhan o’r prosiect. Bydd y trigolion yn cymryd yr awenau dros wneud penderfyniadau a byddwch yn bwrw golwg ar sut i ddod i benderfyniad ar y cyd yn y pen draw. Rydym yn agored i unrhyw syniadau o ran cyflawni a threfnu’r prosiect a bydd modd dysgu am wahanol ffurfiau o gydweithio. Mae’n berffaith iawn os nad ydyw’n gweithio fel y disgwyl.
Byddwn yn dwyn tîm o drigolion lleol ynghyd i reidio’r beiciau i gynnal y sinema, gosod y cyfarpar, rhannu gwybodaeth am y dangosiadau a gwneud penderfyniad ynghylch a ddylai’r popcorn fod yn felys neu’n hallt, neu’n gymysgedd o’r ddau o bosib!
Beth ydy Sinema Pŵer Pedal?
Sinema symudol wedi’i gynnal gan feiciau! Rydym yn gobeithio y bydd gennym ni bedwar beic a bydd modd i bawb o bob lliw a llun gymryd rhan yn y prosiect. Gallai bawb gyfrannu tuag at gynnal y sinema ac fe fydd angen i bobl bedlo er mwyn parhau i wylio’r ffilm.
Y Rôl lawrydd
Oriau: Hyblyg. Rydym yn disgwyl y bydd gofyn ichi dreulio oddeutu 20 diwrnod ar y prosiect.
Dyddiadau: Digwyddiadau ar ddydd Gwener Ebrill yr 8fed, Dydd Sadwrn Ebrill y 9fed a ddydd Sul Ebrill y 10fed 2022
Lleoliadau: Digwyddiadau yn Nyffryn Conwy. Byddwch yn gweithio o adref gan deithio mymryn ar hyd Dyffryn Conwy i gydweithio gyda chymunedau yn eu hardaloedd nhw.
Ffi: Ffi o £3,000 ar sail llawrydd, yn ogystal â chostau teithio.
Sgiliau / profiad hanfodol: Siaradwr Cymraeg, yn gallu teithio, cyfathrebydd effeithiol a chyfeillgar, trefnus, hyblyg, dyfeisgar ac agwedd y gellir ei addasu.
Mae gen i ddiddordeb, sut ydw i’n mynd ati i ymgeisio?
Ewch ati i ddatgan eich diddordeb yn y swydd yn ysgrifenedig (uchafswm o un ochr A4), neu drwy gyflwyno fideo neu glip sain (uchafswm o 3 munud) ynghyd ag anfon copi o’ch CV at katie[at]ffiwsar.com
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch gyda ni.
Pryd mae’r dyddiad cau?
5yp ar ddydd Llun, Ionawr yr 28ain, 2022
Pwy sy’n cynnal y prosiect?
Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, mudiad cynhyrchu creadigol yn Llanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chartrefi Conwy, Landlord Cymdeithasol Cofrestredig annibynnol ac nid er elw.
Beth ydy Dyffryn Dyfodol?
Mae Dyffryn Dyfodol yn gyfieithiad o ‘future valley’. Ein nod ydy cydweithio gyda chymunedau, mudiadau a phrosiectau yn ardal ffocws cefn gwlad Conwy a bwrw golwg ar ffyrdd o wneud newidiadau cadarnhaol. Drwy ddwyn pobl ynghyd i gyflawni gweithgareddau creadigol, mae’n gyfle inni gael cipolwg ar ddyfodol delfrydol. Hoffem ddysgu am brofiadau a syniadau pobl – beth allwn ni ei newid neu ei herio fel bod ein holl gymunedau a’r amgylchedd yn elwa? Does gennym ni ddim yr atebion hyd yn hyn – diben y prosiect ydy inni gydweithio er mwyn canfod yr atebion.
Mae’r prosiect ar waith tan fis Mawrth 2024 ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
