Dyffryn Dyfodol

Dyffryn Conwy, llawer o goed ar lawr a llethrau'r dyffryn yn yr haf // Conwy Valley with lots of trees on the valley floor and slopes in summer.

Mae Dyffryn Dyfodol yn archwilio ffyrdd o gydweithio â chymunedau yng nghefn gwlad Conwy i wneud pethau yn well. Byddwn yn dod â phobl ynghyd gyda’r celfyddydau fel catalydd i archwilio, darganfod a chynllunio ar gyfer dyfodol rydan ni eisiau weld.

Rydyn ni eisiau darganfod am brofiadau, ystyriaethau a syniadau pobl, a gyda’n gilydd gallwn archwilio’r hyn a allai fod yn bosibl i newid, herio neu wella – yn ein bywydau, ein hamgylchedd, a’n cymunedau, er budd pawb. Nid ydym yn gwybod sut, nid oes gennym yr atebion – darganfod sut yw pwrpas y prosiect.

Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, sefydliad cynhyrchu creadigol wedi’i leoli yn Llanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy a byddwn yn cydweithredu â sefydliadau a phrosiectau eraill yn yr ardal ffocws sef dalgylch afon Conwy.

Mwy o fanylion y prosiect i’w gyhoeddi yn 2023-24.