Pobol Creadigol – wedi cau

Fersiwn sain o’r testun:

Rydym yn chwilio am ymarferwyr creadigol i weithio gyda ni a chymunedau Conwy wledig mewn ffyrdd creadigol a chyffrous.

Rydym yn mynd i’r afael â phethau yn wahanol a ddim yn gwneud galwad allan i ddarparu prosiect neu gynnyrch penodol. Rydym eisiau dod o hyd i bobl greadigol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phobl i ddatblygu syniadau a phrosiectau ar y cyd gyda ni a phobl sy’n byw yn y cymunedau rydym ni’n cydweithio â nhw.

Beth ydym yn chwilio amdano?

Mae hyn yn hyblyg – hoffem ni glywed amdanoch chi a beth sy’n eich diddori hyd yn oed os nad oes gennych syniad pendant o beth hoffech chi ei wneud gyda’r bobl yn ardal y prosiect. Gallwn eich helpu i edrych i mewn i hyn a chefnogi eich syniadau. 

Cysylltwch gyda ni am drafodaeth anffurfiol. Dydyn ni ddim yn gofyn ichi gwblhau ffurflen gais, CV na llythyr. Anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ac fe drefnwn ni amser addas i drafod – gall hyn fod wyneb-yn-wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.

Pryd?

Hoffem ni glywed gennych chi cyn gynted â phosibl a chyn hanner dydd ar ddydd Llun Ionawr 24 2022 fan bellaf.Rydym yn rhagweld bydd y gweithgaredd hwn yn digwydd rhyw bryd yn 2022 ac o bosibl yn 2023 hefyd. 

Beth fyddwn ni’n ei gynnig i chi?

Tâl – byddwn ni’n eich talu am eich amser ar gyfradd o £250 y diwrnod os byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Bydd y nifer o ddiwrnodau byddwn yn gweithio gyda’n gilydd yn dibynnu ar beth fyddwn ni’n ei drafod ac yn penderfynu ei wneud gyda’n gilydd. 

Hyblygrwydd – rydym yn hyblyg gydag amserlenni darparu a phryd byddwn yn cyflawni pethau. Gallwn gytuno ar amserlen sy’n gweithio orau i bawb. 

Cefnogaeth – rydym eisiau cefnogi pobl greadigol sydd eisiau gwneud i bethau cyffrous ddigwydd gydag eraill. Rhannwch beth ydych chi’n meddwl buasai’n eich helpu ac fe wnawn ni beth y gallwn ni i’ch cefnogi.

Pwy all ymgeisio?

Pobl greadigol. Nid yw eich creadigrwydd wedi’i gyfyngu gan ein syniad ni o beth ydy bod yn greadigol. Dywedwch chi wrthym ni sut ydych chi’n greadigol, yn hytrach nag ein bod ni’n diffinio hynny ar eich rhan. Dydyn ni ddim yn chwilio am ffurf benodol o gelf, gallwch fod yn greadigol mewn unrhyw ffurf o gelf neu rywbeth na chaiff ei ystyried yn ffurf o gelf ar y funud. Dyma rai enghreifftiau, ond nid yw’n rhestr gynhwysfawr: celfyddydau cymwys, gwneud ffilmiau, peintio, cerflunio, cerddoriaeth, theatr, ysgrifennu, dawnsio, celfyddydau gweledol, blogio, flogio, graffeg, podlediad, dylunio, perfformio, pensaernïaeth, cynllunio mewnol, adrodd straeon, barddoniaeth, realiti estynedig ayb..

Rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau neu sydd gyda chysylltiad ag ardal y prosiect. Yn ddelfrydol, byddwch chi’n hyderus yn siarad gyda phobl eraill ac yn gallu teithio. 

Mae’r cyfle hwn ar agor i bawb 18 oed neu drosodd. 

Mae gennym ddiddordeb arbennig clywed gan pobl greadigol sy’n siaradwr Cymraeg ac/neu yn adnabod eu hunain yn: anabl neu Byddar; LGBQTIA+; Affricanaidd DG, Asiaidd neu ethnig amrywiol.

Rydym yn rhagweld bydd llawer o ddiddordeb yn y cyfle yma ac yn anffodus, ni fyddwn yn medru gweithio gyda phawb fydd yn cysylltu gyda ni.
Bydd unrhyw gynnig yn ddibynnol ar wiriad ‘Enhanced DBS’

Ardal y Prosiect

Ardal y prosiect ydy Dyffryn Conwy.

Pwy sy’n gwneud hyn?

Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, mudiad cynhyrchu creadigol o Lanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy, Landlord Cymdeithasol Cofrestredig di-elw annibynnol.

Beth ydy Dyffryn Dyfodol?

Rydym eisiau cydweithio gyda chymunedau, mudiadau a phrosiectau yn yr ardal ffocws o Gonwy wledig ac edrych ar ffyrdd o wneud newidiadau cadarnhaol. Drwy ddod â phobl ynghyd ar gyfer gweithgareddau creadigol, rydym yn edrych ar ddyfodol hoffem ni i gyd ei weld. Hoffem ni ddysgu am brofiadau a syniadau pobl – beth mae modd ei newid neu ei herio i fod o fantais i’n holl gymunedau a’r amgylchedd? Nid oes gennym ni’r atebion – dod o hyd i’r atebion gyda’n gilydd ydy nod y prosiect. 

Caiff y prosiect ei redeg ar y funud tan fis Mawrth 2024 a’i ariannu yn rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.