
Rydym yn chwilio am ymarferwyr creadigol Cymraeg eu hiaith i weithio gyda ni yn Sioe Wledig Llanrwst ar Ddydd Sadwrn 25ain Mehefin 2022.
Rydyn ni eisiau archwilio pethau gyda’r mynychwyr, gan gynnwys yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a sut maen nhw eisiau siapio’r dyfodol – i gyd mewn ffordd greadigol a hwyliog. Nid ydym yn gofyn am ffurf gelfyddyd, gweithgaredd neu allbwn penodol – rydym yn gadael y syniadau i chi.
Beth ydym yn chwilio amdano?
Mae gennym ni ddiddordeb mewn syniadau sy’n ymgysylltu â phobl, yn dechrau meddwl am bethau’n wahanol ac yn cynnig gofod i rannu syniadau. Nid oes rhaid iddo fod yn weithgaredd celfyddydol creadigol, nid yw’n gorfod creu rhywbeth, gwrthrych neu ddarn o waith gorffenedig, mae’n ymwneud mwy â’r profiad mae pobl yn ei gael gyda ni.
Hoffem glywed am yr hyn sydd gennych ddiddordeb mewn ei wneud gyda phobl yn y digwyddiad. Gallwn gynorthwyo i gefnogi, archwilio a datblygu syniadau cychwynnol.
Mae gennym ni ddiddordeb mewn gwneud pethau’n wahanol gyda phobl greadigol a chymunedau.
Pryd?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych cyn gynted â phosibl ac erbyn 12pm ddydd Llun 23 Mai 2022 fan bellaf.
Mae angen i chi fod ar gael am y diwrnod cyfan dydd Sadwrn 25 Mehefin 2022 8am – 5pm.
Beth ydym yn ei gynnig i chi?
Rydym yn cynnig ffi o £500. Mae hyn yn cynnwys eich amser ymchwil, datblygu a pharatoi yn ogystal â diwrnod y gweithgaredd.
Bydd cyllideb deunyddiau ychwanegol o hyd at £200 ar gael.
Pwy all wneud cais?
- Pobl greadigol sydd yn siarad Cymraeg
- Pobl sy’n gyfforddus yn ymgysylltu a siarad hefo eraill
- Pobl greadigol sydd â diddordeb mewn gwneud i bethau diddorol ddigwydd
- Pobl sydd â neu sydd eisiau cysylltiad ag ardal y gweithgaredd.
Mae’r cyfle hwn yn agored i bobl 18 oed a throsodd.
Sut i wneud cais?
Cysylltwch a gallwn gael sgwrs anffurfiol.
Nid ydym yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais, anfon eich CV na llythyr.
Gallwn drefnu amser da i siarad – gall hyn fod wyneb i wyneb, ar-lein neu ar y ffôn.
Ar ôl ein sgwrs byddwn yn gofyn i chi rannu eich syniad am weithgaredd gyda ni – gellir ei ysgrifennu (un ochr A4 ar y mwyaf), creu fideo neu sain (2 funud ar y mwyaf), darluniadau, diagramau, model 3D… beth bynnag sy’n gweithio orau i chi i rannu eich syniadau.
Cysylltwch â ni erbyn 12pm ddydd Llun 23 Mai 2022 fan bellaf.
Pwy sy’n gwneud hyn?
Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, mudiad cynhyrchu creadigol o Lanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy, Landlord Cymdeithasol Cofrestredig di-elw annibynnol.
Beth yw Dyffryn Dyfodol?
Rydym eisiau cydweithio gyda chymunedau, mudiadau a phrosiectau yn yr ardal ffocws o Gonwy wledig ac edrych ar ffyrdd o wneud newidiadau cadarnhaol. Drwy ddod â phobl ynghyd ar gyfer gweithgareddau creadigol, rydym yn edrych ar ddyfodol hoffem ni i gyd ei weld. Hoffem ni ddysgu am brofiadau a syniadau pobl – beth mae modd ei newid neu ei herio i fod o fantais i’n holl gymunedau a’r amgylchedd? Nid oes gennym ni’r atebion – dod o hyd i’r atebion gyda’n gilydd ydy nod y prosiect.
Caiff y prosiect ei redeg ar hyn o bryd tan fis Mawrth 2024 a’i ariannu yn rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
