Mae’r Wal yn_

Cydweithrediad rhwng trigolion ystâd dai Tre Cwm a’r artist preswyl Kristin Luke, gan ddatblygu gwaith celf ar gyfer prif wal derfyn yr ystâd, gyda ffocws ar y broses a’r profiadau sy’n cronni o amgylch y prosiect wrth iddo ddatblygu, a sut mae’r rhain yn effeithio ar les cyffredinol y gymuned.

Trwy weithgareddau sy’n annog rhannu straeon, hanesion, ac yn dathlu arbenigedd preswylwyr a hunaniaethau unigol a chyfunol, mae’r prosiect yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn: A all y wal fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo? Pa neges ddylai ddweud wrth bobl sy’n dod i mewn ac allan o Llandudno ar hyd un o’i brif rydwelïau? Beth yw’r straeon, y gwrthrychau a’r delweddau a fydd yn dod â’r wal hon yn fyw? A all preswylwyr ddysgu am ei gilydd a chysylltu â’i gilydd trwy gymryd rhan yn y prosiect?

Gwybodaeth pellach am y prosiect yma www.thewallis.cymru

Digwyddodd The Wall Is __ trwy gydweithrediad rhwng Culture Action Llandudno, Cartrefi Conwy a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru. Mae mewn partneriaeth â Chanolfan Gymunedol Ty Llywelyn ac Oriel Mostyn ac yn cael ei hariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn a Chyngor Tref Llandudno.