Nodiadau Maes i Ffrindiau Creadigol

Beth ydi o a sut gafodd ei greu?

Fel rhan o broses ymchwil Dyffryn Dyfodol roeddwn yn ceisio gwreiddio fy hun yn ofalus o fewn cymuned i archwilio ac annog gweithgaredd creadigol.
Yn byw yn bell i ffwrdd o’r gymuned roeddwn i’n gweithio gyda hi, i ddechrau roeddwn i’n ei chael hi’n anodd meithrin perthynas dwfn ac i ymuno â phrosiectau oedd yn bodoli eisoes oherwydd bod fy amser cyswllt gyda’r gymuned yn gyfyngedig. Yn hytrach na bod hyn yn fy nghyfynu, a gan gydnabod beth arweiniodd at fy nghysylltiad â’r gymuned, newidiais yr hyn yr oeddwn yn meddwl y dylai fy rôl fod; pe na bawn i’n gallu cael presenoldeb cyson, gallwn yn hytrach gefnogi, ysbrydoli a chychwyn gweithredoedd creadigol bach, gan ddod yn ffrind creadigol i’r gymuned yn y bôn.
Fe wnaeth yr hyn a ddysgwyd o fy mhrofiad, ynghyd â’r hyn a ddysgwyd gan grŵp o bobol creadigol Dyffryn Dyfodol fy helpu i lunio’r llyfr gwaith penagored hwn fel canllaw i unrhyw un sy’n dymuno arwain prosiect cymunedol creadigol.

– Emrys Plant, golygydd

Lawrlwytho am ddim: