Adolygwyr Prosiect – Galwad Agored

Rydym yn chwilio am bedwar person creadigol i weithio gyda ni ar brosiect Dyffryn Dyfodol. Hoffem i chi neidio mewn i’r hyn rydyn ni wedi’i wneud, archwilio sut rydyn ni wedi’i wneud, a rhannu adolygiad gonest o’r hyn rydych chi’n ei ddarganfod.

Tydan ni ddim am ddiffinio sut neu beth i’w rannu gyda ni fel rhan o’r broses, mae hyna fyny i chi. Gall yr adolygiad fod yn ymateb creadigol e.e. ar lafar, perfformiad, neu’n ddogfen o’r gwaith. Gall yr ymateb fod yn Gymraeg, Saesneg, BSL – neu yn ddwy neu dair-ieithog.

Be ydan ni’n chwilio amdano
Pedwar person creadigol sydd â diddordeb mewn archwilio prosiectau creadigol, cymunedol ac amgylcheddol.

Rydym yn chwilio am bobl sy’n mwynhau:

  • Darllen – oherwydd yr holl wybodaeth rydyn ni wedi’i hysgrifennu
  • Ymchwilio – oherwydd does dim posib ddarllen popeth, cewch archwilio’r rhannau sy o ddiddordeb i chi
  • Dadansoddi – ystyriwch, meddyliwch a dadansoddwch yr hyn rydych chi’n ei ddarganfod
  • Cwestiynu – gofyn cwestiynau i’w holi ac ymchwilio
  • Rhannu – rydym am i chi rannu eich barn, gyda ni a gweddill y byd

Pryd
Dyma ein hamserlen arfaethedig ar gyfer y gwaith. Fe welwch fod hyblygrwydd gyda chyflwyno unwaith y bydd y bobl greadigol wedi’u dewis.

  • 15 Ionawr – dyddiad cau gwneud cais
  • 22 Ionawr – rhoi gwybod pwy sydd wedi eu dewis
  • 4 Mawrth – dyddiad cau ar gyfer cyflawni’r gwaith

Beth ydan ni’n gynnig

  • Ffi – byddwn yn talu ffi o £1000 i chi. Mae hyn yn seiliedig ar £250 y dydd am 4 diwrnod o waith. Gallwn dalu rhan o’r ffi ymlaen llaw os yw hynny’n helpu gyda’ch llif arian.
  • Hyblygrwydd – rydym yn hyblyg o ran amserlenni cyflawni – rhowch wybod i ni os nad yw’r amserlen arfaethedig uchod yn gweithio i chi a gallwn gytuno os oes angen newid.
  • Cefnogaeth – rydym eisiau eich cefnogi fel rhan o’r broses. Rhowch wybod i ni beth rydych chi’n meddwl fyddai’n eich helpu chi a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi chi.
  • Gwybodaeth – bydd gennych fynediad i bopeth sy’n ymwneud â’r prosiect, gan gynnwys data a gasglwyd, dogfennau cynllunio, cytundebau partneriaeth, myfyrdodau gan eraill, lluniau, yr hyn yr oeddem yn gobeithio ei wneud a’r hyn a wnaethom, ymchwil, fideos, recordiadau sain a llawer mwy. Mae 24 prif elfen i’r prosiect, mae rhai yn fawr a rhai yn fach, bydd gennych fynediad i’r holl wybodaeth, yn ogystal â’n amser i drafod pethau gyda chi.

Mae’r wybodaeth ar ffurf digidol a bydd angen mynediad i gyfrifiadur er mwyn cael mynediad i Google Drive, byrddau Miro a fideos ayb.

Pwy all wneud cais?
Pobl greadigol. Nid ydym yn chwilio’n benodol am unrhyw brofiad neu sgiliau penodol, ond dylai fod gennych ddiddordeb mewn cwestiynu, herio ac ymchwilio neu newch chi ddim mwynhau’r broses.

Nid yw holl wybodaeth y prosiect ar gael yn ddwyieithog, rydym yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, felly dim ond yn Gymraeg y mae peth gwybodaeth ar gael. Bydd yn fuddiol os ydych yn gallu darllen a siarad Cymraeg.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â neu eisiau cysylltiad ag ardal y prosiect h.y. Dyffryn Conwy. Bydd yr holl waith yn cael ei wneud o bell, felly nid oes angen teithio i ardal y prosiect yn sir Conwy.

Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn.

Mae gennym ddiddordeb arbennig clywed gan pobl greadigol sy’n siaradwr Cymraeg ac/neu yn adnabod eu hunain yn: anabl neu Byddar; LGBQTIA+; Affricanaidd DG, Asiaidd neu ethnig amrywiol.

Sut i wneud cais
Anfonwch e-bost atom yn esbonio pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn a pham eich bod yn addas ar gyfer y math yma o waith. Pwrpas yr e-bost hwn yw rhannu gyda ni eich gallu i wneud y gwaith a amlinellir yn y briff hwn. Gallwch rannu’r wybodaeth yma yn ysgrifenedig, fideo neu sain, pa un bynnag sydd orau gennych. Uchafwm hyd ysgrifenedig un ochr A4, fidio neu sain uchafswm o 4 munud.

Nid oes angen i chi lenwi ffurflen gais na pharatoi CV ar ein cyfer.

Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau nag sydd gennym o rolau ar gael, bydd ceisiadau dethol yn cael eu tynnu ar hap.

Anfonwch eich cynnig at iwan@ffiwsar.com

Os ydych am gael sgwrs gyda ni am y rôl cyn i chi gyflwyno eich cais, rydym yn hapus i wneud hynny, cysylltwch ag Iwan ar y cyfeiriad e-bost uchod a gallwn drefnu sgwrs ffôn neu Zoom.

Beth yw Dyffryn Dyfodol?
Mae Dyffryn Dyfodol yn brosiect sy’n archwilio ffyrdd gwahanol o wneud pethau gyda partneriaid, pobl greadigol a chymunedau.

Rydym wedi bod yn cydweithio yn ardal ffocws dalgylch afon Conwy gan edrych ar ffyrdd o rannu penderfyniadau, sut i ddysgu a rhannu er mwyn creu newid cadarnhaol. Drwy ddod â phobl at ei gilydd ar gyfer gweithgareddau creadigol, rydym wedi archwilio’r dyfodol rydym am ei weld heb wybod beth yw’r atebion – darganfod gyda’n gilydd yw hanfod y prosiect.

Fideo byr yn rhannu rhai syniadau am y prosiect yma

Pwy sy’n gwneud hyn?
Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, sefydliad cynhyrchu creadigol sydd wedi’i leoli yn Llanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy, landlord cymdeithasol cofrestredig annibynnol dielw.

Mae’r prosiect yn ei ffurf bresennol yn rhedeg tan fis Mawrth 2024 ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Cyngor Celfyddydau Cymru.