£200 am eich syniad – WEDI CAU

Oes ganddo chi syniad o fudd i gymuned yn Dyffryn Conwy? Da ni’n cynnig £200 a chefnogaeth i wireddu eich syniad

Wedi ei lansio yn Sioe Wledig Llanrwst ar Fehefin 23, does dim llawer o amser i chi rannu eich syniad! Darllennwch isod am fwy o fanylion.

Oes ganddo chi syniad fyddai o fudd i gymuned yn Dyffryn Conwy?
All fod yn unrhywbeth – does dim ffasiwn beth a syniad gwael…

Be ydi’r cynnig?
£200 a cefnogaeth i wireddu eich syniad.

Ydi bob syniad yn cael £200?
Yn anffodus ddim, os da ni’n derbyn gormod o syniadau cymwys, byddwn yn eu rhoi mewn het ac yn eu dewis ar hap. Os nad yw eich syniad yn cael ei dewis, fedrwn ni gefnogi’ch syniad mewn ffyrdd eraill.

Pwy sy’n cael cynnig syniad?
Unrhyw un sy’n 16 oed neu hŷn, sydd yn byw yn Dyffryn Conwy neu sydd â chysylltiad cryf â’r ardal.

Amserlen
Byddwn yn gadael i chi wybod os ydi’ch syniad wedi ei ddewis erbyn y 7fed o Orffennaf.

Amdanom ni
Mae prosiect Dyffryn Dyfodol yn cydweithio gyda cymunedau yn Nyffryn Conwy i ymchwilio gwahanol ffyrdd o gyflawni newidiadau cadarnhaol ar y cyd. Mae’n bartneriaeth rhwng Ffiwsar, sefydliad creadigol o Llanrwst (nath drefnu arwydd Llanrwst a’r pasports yn 2019), Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy.

Dyddiad Cau
Cysylltwch yma hefo gwybodaeth cryno (llai na 50 gair) am eich syniad a lle fydd yn digwydd erbyn 9yb Gorffennaf 3ydd 2023.