
Sut fyddwch chi’n gwario £200 er lles eich cymuned yn Tal-y-bont neu Llanbedr y Cennin?
Oes gennych chi syniad fyddai’n fuddiol i drigolion eich cymuned?
- Gallai fod yn ddigwyddiad bach untro, yn sbardun ar gyfer gweithgarwch pellach neu gallwch gyflawni rhywbeth rydych chi wedi bod yn awyddus i roi cynnig arno ers tro
- Byddwn yn eich cefnogi ac yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau
- Gallwn gynnig £200 er mwyn i chi gychwyn arni gyda’ch cynlluniau
Pryd?
- Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi cyn gynted â phosibl – gofynnwn ichi rannu eich syniad gyda ni erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener, Mai y 5ed 2023 fan bellaf.
- Mae’n rhaid ichi gynnal y gweithgaredd cyn Awst y 31ain 2023.
Pwy sy’n gymwys i ymgeisio?
- Unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn
- Pobl sydd naill ai yn byw yn Nhal y Bont neu Llanbedr y Cennin neu sydd â chysylltiad cryf â’r ardaloedd hynny
- Rydym yn chwilio’n benodol am bobl sydd ddim yn meddu ar lawer o brofiad yn cyflawni’r math yma o waith
- Ni allwn gynnig cymorth ariannol os ydy eich syniad ar waith eisoes, rydym yn awyddus i ariannu gweithgarwch cymunedol o’r newydd
Sut i ymgeisio
Mae’r broses ymgeisio yn syml ac yn rhwydd – cysylltwch am sgwrs anffurfiol gydag Iwan yma – gallwn gwrdd â chi wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.
Mae Iwan yn gweithio yn Llanrwst ac mae’n medru sgwrsio gyda chi dros y ffôn, ar e-bost neu wyneb yn wyneb, beth bynnag sy’n fwyaf addas ichi. Dyma ychydig o fanylion am Iwan a llun ohono: https://ffiwsar.com/about/
Dewis a dethol
Os byddwn ni’n derbyn gormod o syniadau sy’n bodloni’r meini prawf, byddwn yn eu rhoi mewn het ac yn eu dewis ar hap.
Hyd yn oed os na chewch chi’ch dewis, peidiwch â digalonni oherwydd fe allwn ni eich cefnogi gyda’ch syniadau mewn ffyrdd eraill.
Pwy sy’n gyfrifol am y prosiect?
Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, mudiad cynhyrchu creadigol yn Llanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy, landlord cymdeithasol cofrestredig nid er elw.
Beth ydy Dyffryn Dyfodol?
Hoffem gydweithio gyda chymunedau, mudiadau a phrosiectau yn Nyffryn Conwy a bwrw iddi i ymchwilio gwahanol ffyrdd o gyflawni newidiadau cadarnhaol ar y cyd. Bydd Dyffryn Dyfodol ar waith tan Mawrth 2024 ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
