Cyfle i gymunedau Tal-y-bont a Llanbedr y Cennin – WEDI CAU

Sut fyddwch chi’n gwario £200 er lles eich cymuned yn Tal-y-bont neu Llanbedr y Cennin?

Oes gennych chi syniad fyddai’n fuddiol i drigolion eich cymuned? 

  • Gallai fod yn ddigwyddiad bach untro, yn sbardun ar gyfer gweithgarwch pellach neu gallwch gyflawni rhywbeth rydych chi wedi bod yn awyddus i roi cynnig arno ers tro 
  • Byddwn yn eich cefnogi ac yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau 
  • Gallwn gynnig £200 er mwyn i chi gychwyn arni gyda’ch cynlluniau 

Pryd?

  • Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi cyn gynted â phosibl – gofynnwn ichi rannu eich syniad gyda ni erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener, Mai y 5ed 2023 fan bellaf.
  • Mae’n rhaid ichi gynnal y gweithgaredd cyn Awst y 31ain 2023.

Pwy sy’n gymwys i ymgeisio?

  • Unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn
  • Pobl sydd naill ai yn byw yn Nhal y Bont neu Llanbedr y Cennin neu sydd â chysylltiad cryf â’r ardaloedd hynny 
  • Rydym yn chwilio’n benodol am bobl sydd ddim yn meddu ar lawer o brofiad yn cyflawni’r math yma o waith 
  • Ni allwn gynnig cymorth ariannol os ydy eich syniad ar waith eisoes, rydym yn awyddus i ariannu gweithgarwch cymunedol o’r newydd 

Sut i ymgeisio
Mae’r broses ymgeisio yn syml ac yn rhwydd – cysylltwch am sgwrs anffurfiol gydag Iwan yma – gallwn gwrdd â chi wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.

Mae Iwan yn gweithio yn Llanrwst ac mae’n medru sgwrsio gyda chi dros y ffôn, ar e-bost neu wyneb yn wyneb, beth bynnag sy’n fwyaf addas ichi. Dyma ychydig o fanylion am Iwan a llun ohono: https://ffiwsar.com/about/

Dewis a dethol
Os byddwn ni’n derbyn gormod o syniadau sy’n bodloni’r meini prawf, byddwn yn eu rhoi mewn het ac yn eu dewis ar hap. 
Hyd yn oed os na chewch chi’ch dewis, peidiwch â digalonni oherwydd fe allwn ni eich cefnogi gyda’ch syniadau mewn ffyrdd eraill.

Pwy sy’n gyfrifol am y prosiect? 
Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, mudiad cynhyrchu creadigol yn Llanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy, landlord cymdeithasol cofrestredig nid er elw.

Beth ydy Dyffryn Dyfodol? 
Hoffem gydweithio gyda chymunedau, mudiadau a phrosiectau yn Nyffryn Conwy a bwrw iddi i ymchwilio gwahanol ffyrdd o gyflawni newidiadau cadarnhaol ar y cyd.  Bydd Dyffryn Dyfodol ar waith tan Mawrth 2024 ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.